Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5 (Hybrid)
Dyddiad: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023
Amser:
11.00 – 14:50
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Rhys Morgan
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
------
Cofrestru cyn y cyfarfod: 11:00-11:15
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
(11:15)
2 Papurau i'w nodi
(11:15)
2.1 Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y cyfarfod o Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
(Tudalen 1)
2.2 Gohebiaeth rhwng yr Arglwydd Bellamy KC, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Profiadau Menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol
(Tudalennau 2 - 5)
2.3 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Gymuned Roma a’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
(Tudalennau 6 - 8)
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, eitem 5 ac eitem 7 ar agenda’r cyfarfod heddiw.
(11:15)
4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon - trafod yr adroddiad.
(11:15-11:45) (Tudalennau 9 - 22)
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
(11:45-12:00) (Tudalennau 23 - 48)
Egwyl 12:00-13:30
6 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth
(13:30-14:30) (Tudalennau 49 - 57)
7 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth
(14:30-14:50)